🍞 Bydd modd troi crystiau bara dros ben yn fwydydd newydd diolch i ymchwil newydd.
Mwy: tinyurl.com/mrp54r84
Mae darganfyddiad diweddar ein gwyddonwyr yn cefnogi’r ddamcaniaeth bod Côr y Cewri wedi’i adeiladu fel cofeb i uno ffermwyr Prydain bron i 5,000 o flynyddoedd yn ôl.
Mwy: https://tinyl.io/Bs3y
Wrth i COP29 dynnu at y terfyn, dywed yr Athro Bryn Hubbard o’n Canolfan Rewlifeg fod angen cadw at ymrwymiadau rhyngwladol i daclo newid hinsawdd; gan rybuddio bod goblygiadau dinistriol i golli llenni iâ’r byd.
AU Geography & Earth Sciences
Wrth siarad cyn COP29, dywed yr arbenigwr amgylcheddol Dr Arwyn Edwards bod newid hinsawdd yn ddifrifol a nawr yw’r amser i weithredu.
Mewn casgliad ymchwil newydd, mae’r cymdeithasegwr Dr Bethany Simmonds wedi galw am drawsnewid systemau gofal wedi effaith negyddol pandemig COVID ar hawliau dynol pobl hŷn ac anabl.
Mwy: https://tinyl.io/BbJ2
ESA
Ddydd Sul fydd diwedd y daith i ESA Salsa wrth i’r gyntaf o bedair lloeren losgi uwchlaw’r Môr Tawel ar ei ffordd yn ôl i’r Ddaear. Bu Dr Owen Roberts o'r Adran Ffiseg yn ymchwilydd ar y daith.
Mwy: https://tinyl.io/BPkL
Mae’n bleser croesawu arbenigwyr meddalwedd o bob rhan o'r byd i Aberystwyth yr wythnos hon i drafod y datblygiadau diweddaraf ym maes datblygu #iOS.
Mwy: https://tinyl.io/BOUU
Daeth y “garreg las” fwyaf sydd yng nghanol Côr y Cewri o ogledd yr Alban, nid Cymru, yn ôl ein hymchwil newydd.
Mae’r canfyddiadau hyn yn wirioneddol ryfeddol – yn gwrthdroi'r hyn a gredwyd dros y ganrif ddiwethaf.
☀️ Gyda stormydd solar posibl wedi’u rhagweld eto heno a’r delweddau syfrdanol a ddaw gyda nhw, mae’r Athro Huw Morgan yn datgelu’r wyddoniaeth y tu ôl iddynt
🖱️ Darllenwch fwy am ein gwaith yma: https://tinyl.io/BHY9