Geiriadur Prifysgol Cymru

Geiriadur Prifysgol Cymru Geiriadur Prifysgol Cymru yw unig eiriadur Cymraeg hanesyddol safonol yr iaith Gymraeg. Mae ar gael Dechreuodd cynllun i baratoi'r Geiriadur ym 1921.

Casglwyd dros 2.5 miliwn o enghreifftiau a dechrau golygu'r gwaith ddiwedd yr 1940au. Cyhoeddwyd y rhan gyntaf o 61 yn 1950, a'r olaf yn 2002. Yn 2003 decreuwyd ailogygu'r Geiriadur gan ychwanegu llawer mwy o wybodaeth i bob erthygl. Yn 2010 penderfynwyd cyhoeddi'r Geiriadur ar lein. Mae ar gael mewn print (heb yr ychwanegiadau diweddar) ac ar lein (http://gpc.cymru) ac fel apiau Android, iOS, ac

Amazon Fire (http://www.geiriadur.ac.uk/apiau-android-ac-ios/). Gellir ei gymharu’n fras o ran ei ddull a’i gwmpas â’r Oxford English Dictionary. Mae’n cyflwyno geirfa’r iaith Gymraeg o’r testunau Hen Gymraeg cynharaf, drwy lenyddiaeth doreithiog y cyfnodau Canol a Modern, hyd at y cynnydd aruthrol yn yr eirfa sy’n deillio o’r defnydd ehangach o’r iaith ym mhob agwedd ar fywyd yr hanner canrif diwethaf. Diffinnir yr eirfa hon yn Gymraeg, ond rhoddir cyfystyron Saesneg yn ogystal. Rhoddir sylw manwl i ffurfiau amrywiol, cyfuniadau, a tharddiad geiriau. Ychwanegir geiriau newydd at y Geiriadur yn barhaus. Hoffem glywed gennych drwy [email protected] am eiriau newydd ac am unrhyw wallau yn y gwaith.

Gair y dydd: awrlais https://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?awrlais - Enw arall ar gloc, oriawr a watsh. Adffurfiad yw'r e...
11/04/2025

Gair y dydd: awrlais https://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?awrlais - Enw arall ar gloc, oriawr a watsh. Adffurfiad yw'r enw o'r gair 'orlais' (dan ddylanwad 'awr' a 'llais') sy'n fenthyciad o'r Saesneg Canol 'orlage' neu'n uniongyrchol o'r Ffrangeg 'horloge'. Mae'n enw addas iawn ar y clociau cwcw yn y llun.🕰️

Word of the day: awrlais https://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?awrlais Another name for a clock or a watch. This word is a re-formation of 'orlais' (borrowed from the English 'orlage' or the French 'horloge'), under the influence of 'awr' (hour) and 'llais' (voice). It is a very fitting name for the cuckoo-clocks in the photo.🕰

Gair y Dydd cwningen https://www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?cwningen Cnofil bychan epiliog yn turio yn y ddaear. Gair ...
10/04/2025

Gair y Dydd cwningen https://www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?cwningen Cnofil bychan epiliog yn turio yn y ddaear. Gair benthyg o Saesneg Canol, yn wreiddiol o Ffrangeg Normanaidd.

Word of the Day cwningen https://www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?cwningen Small, prolific, burrowing rodent, rabbit or coney. Borrowed from Middle English, originally from Norman French.

Thermos CC BY-SA 4.0 https://en.wikipedia.org/wiki/European_rabbit #/media/File:Oryctolagus_cuniculus_Finnish_National_Opera.jpg

Gair y Dydd: cylchynol https://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?cylchynol. Sefydlodd Griffith Jones, Llanddowror, a fu farw ...
08/04/2025

Gair y Dydd: cylchynol https://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?cylchynol. Sefydlodd Griffith Jones, Llanddowror, a fu farw ar y dyddiad hwn yn 1761, ysgolion cylchynol i ddysgu oedolion a phlant Cymru i ddarllen gan wneud Cymru’n un o’r gwledydd mwyaf llythrennog yn y byd yn y cyfnod hwnnw.

Word of the Day: cylchynol https://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?cylchynol = circulating. Griffith Jones of Llanddowror, who died on this date in 1761, organised circulating schools to teach adults and children in Wales to read thus making Wales one of the most literate countries in the world at the time.

Gair y dydd: igam-ogam https://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?igam-ogam - sef gwyro i'r chwith a'r dde ar yn ail, symud o'...
04/04/2025

Gair y dydd: igam-ogam https://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?igam-ogam - sef gwyro i'r chwith a'r dde ar yn ail, symud o'r naill ochr i'r llall ac yn droellog. Daw tarddiad y gair hwn yn syml o'r symudiad cerdded 'i gam o gam'.
A ydych chi'n gyfarwydd â'r ffurfiau miga-moga, fingam-mongam neu gim-gam-gimwch?

Word of the day: igam-ogam https://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?igam-ogam - meaning zigzag, and also tortuous and winding. The origin 'i gam+o gam' refers to one's walk and can be literally translated as 'from step to step'. Igam-ogam is completely unrelated to the ogham writing system.

Gair y dydd: uchelwydd https://www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?Uchelwydd a welir yn tyfu'n sypynnau blêr yn uchel mewn ...
02/04/2025

Gair y dydd: uchelwydd https://www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?Uchelwydd a welir yn tyfu'n sypynnau blêr yn uchel mewn coed - yn edrych braidd fel nythod brain o bell! Mae nifer o enwau arno yn y Gymraeg - gwyglys, uchelfar, pren awyr, ac ati. Beth yw eich gair chi?

🌳🌳🌳

Word of the day: uchelwydd https://www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?Uchelwydd 'mistletoe', often seen growing in bundles high up in trees, not dissimilar to crows' nests from afar! If you search for 'mistletoe' in the dictionary you will find many other words for it in Welsh.

Gair y Dydd: tridiau(’r) aderyn du a dau lygad Ebrill https://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?tridiau_aderyn_du – tri diwrn...
01/04/2025

Gair y Dydd: tridiau(’r) aderyn du a dau lygad Ebrill https://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?tridiau_aderyn_du – tri diwrnod olaf Mawrth a dau (neu dri) diwrnod cyntaf Ebrill pryd y dywedid, mewn rhai ardaloedd, mai dyna’r amser gorau i hau ceirch.

Word of Day: tridiau(’r) aderyn du a dau lygad Ebrill https://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?tridiau_aderyn_du – the last three days of March and the first two (three) days of April which were said, in some areas, to be the best time for sowing oats.

Gair y Dydd: tiwlip https://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?tiwlip Mae'n fenthyciad o'r Saesneg (a'i fenthycodd o'r Dwrceg)...
31/03/2025

Gair y Dydd: tiwlip https://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?tiwlip Mae'n fenthyciad o'r Saesneg (a'i fenthycodd o'r Dwrceg), ond tybed a wyddoch am unrhyw enwau tafodieithol am y blodyn lliwgar hwn o deulu'r lili?

Word of the Day: tiwlip (tulip) https://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?tiwlip The word is borrowed from English (in turn a borrowing from Turkish). I wonder if there are any dialectal names for this colourful flower?

Gair y dydd: swigw https://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?swigw Gweler hefyd y ffurfiau yswidw, swidw, sywidw, yswigw a sy...
28/03/2025

Gair y dydd: swigw https://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?swigw Gweler hefyd y ffurfiau yswidw, swidw, sywidw, yswigw a sywigw. Dyma enw arall am y titw a rhai adar bychain eraill. Ar lafar yng Ngheredigion, clywir y gair swigw yn cael ei ddefnyddio am ferch benysgafn a hoeden.
Ydych chi erioed wedi clywed neu ddefnyddio'r gair?

Word of the day: swigw https://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?swigw See also the forms yswidw, swidw, sywidw, yswigw, and sywigw. This is another name for the tit and some other small birds. Colloquially in Ceredigion, the word swigw can be heard being used for a ditsy or a hoyden girl.

Gair y Dydd: gŵyl Fair y Cyhydedd https://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?gwyl_Fair_y_Cyhydedd, sef heddiw, y 25ain o Fawrt...
25/03/2025

Gair y Dydd: gŵyl Fair y Cyhydedd https://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?gwyl_Fair_y_Cyhydedd, sef heddiw, y 25ain o Fawrth. Mae’n nodi ymweliad yr angel Gabriel â’r Forwyn Fair ac yn digwydd yn agos i gyhydnos y gwanwyn.

Word of the Day: gŵyl Fair y Cyhydedd https://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?gwyl_Fair_y_Cyhydedd (the Annunciation of the Virgin Mary), which falls on this day, 25th March. It notes the coming of the angel Gabriel to the Virgin Mary and occurs near the spring equinox.

Gair y dydd: briallu https://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?briallu Un o flodau'r gwanwyn, yn edrych yn ddel heddiw ar y l...
24/03/2025

Gair y dydd: briallu https://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?briallu Un o flodau'r gwanwyn, yn edrych yn ddel heddiw ar y lawnt gerllaw swyddfa'r Geiriadur. Ceir sawl ffordd o ddweud enw'r blodyn bach hwn ar lafar, megis briellu, brallu, a brigellu. Tybed beth fyddech chi'n ei ddweud?

Word of the day: briallu (primrose) https://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?briallu A lovely spring flower, looking pretty today on the lawn near the Geiriadur's office. There are many colloquial forms for this flower such as briellu, brellu, brallu, biarllu, bierllu, brialla, and brigellu.

Gair y dydd: Alban Eilir https://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?Alban_Eilir - Gair gwneud gan Iolo Morgawng, yn enw un o'r...
21/03/2025

Gair y dydd: Alban Eilir https://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?Alban_Eilir - Gair gwneud gan Iolo Morgawng, yn enw un o'r ddwy adeg yn y flwyddyn pan fydd y dydd a'r nos o'r un hyd. Er mai 20 Mawrth (ddoe) yw dyddiad mwyaf cyffredin Alban Eilir, gall y dyddiad amrywio rhwng 19 a 21 Mawrth.

📷: Llywelyn2000

Word of the day: Alban Eilir (vernal equinox) https://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?Alban_Eilir - A made-up word by Iolo Morganwg, for one of the two times of the year when the day and night are of the same length. Although 20 March (yesterday) is the usual date of the Alban Eilir, it can also take place on 19 and 21 March.

📷: Llywelyn2000

Gair y Dydd: hapusrwydd https://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?hapusrwydd Mae'r braf gweld yr haul ar Ddiwrnod Rhyngwladol...
20/03/2025

Gair y Dydd: hapusrwydd https://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?hapusrwydd Mae'r braf gweld yr haul ar Ddiwrnod Rhyngwladol Hapusrwydd - dymunwn i chi ddedwyddwch. Chwiliwch y Geiriadur am eiriau eraill sy'n golygu hapusrwydd - mae nifer ohonynt! https://www.dayofhappiness.net/

Word of the Day: hapusrwydd (happiness) https://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?hapusrwydd It's good to see the sun shining on World Happiness Day - we wish you joy. Why not search the Dictionary for other Welsh words for happinesss - there are quite a few! https://www.dayofhappiness.net/

Celebrate on 20 March. Join the Action for Happiness community and help create a happier and kinder world, together.

Gair y dydd: pyst dan haul https://www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?pyst%20o%20haul neu ‘byst dan yr haul’ yn ôl eraill....
19/03/2025

Gair y dydd: pyst dan haul https://www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?pyst%20o%20haul neu ‘byst dan yr haul’ yn ôl eraill. Oes gennych chi enw gwahanol arnynt?

Yn ôl hen goel tywydd, mae pyst dan haul ar adeg machlud yn arwydd sicr fod glaw ar y ffordd.

🌧️💦💦⛈️

Word of the day: pyst dan haul https://(www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?pyst%20o%20haul ‘sunbeams’, or ‘sun drawing water’. Have you come across another name for them in Welsh?

Seeing them at sunset is a sure sign that rain is imminent, according to an old tradition.

Address

Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Aberystwyth
SY233HH

Opening Hours

Monday 9am - 5pm
Tuesday 9am - 5pm
Wednesday 9am - 5pm
Thursday 9am - 5pm
Friday 9am - 5pm

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Geiriadur Prifysgol Cymru posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The University

Send a message to Geiriadur Prifysgol Cymru:

Videos

Share

Ein hanes

Geiriadur Prifysgol Cymru yw unig eiriadur Cymraeg hanesyddol safonol yr iaith Gymraeg. Dechreuodd cynllun i baratoi'r Geiriadur ym 1920. Casglwyd dros 2.5 miliwn o enghreifftiau a dechrau golygu'r gwaith ddiwedd yr 1940au. Cyhoeddwyd y rhan gyntaf o 61 yn 1950, a'r olaf yn 2002. Yn 2003 decreuwyd ailogygu'r Geiriadur gan ychwanegu llawer mwy o wybodaeth i bob erthygl. Yn 2010 penderfynwyd cyhoeddi'r Geiriadur ar lein. Mae ar gael mewn print ac ar lein (http://gpc.cymru) ac fel apiau Android ac iOS (http://www.geiriadur.ac.uk/apiau-android-ac-ios/). Gellir ei gymharu’n fras o ran ei ddull a’i gwmpas â’r Oxford English Dictionary. Mae’n cyflwyno geirfa’r iaith Gymraeg o’r testunau Hen Gymraeg cynharaf, drwy lenyddiaeth doreithiog y cyfnodau Canol a Modern, hyd at y cynnydd aruthrol yn yr eirfa sy’n deillio o’r defnydd ehangach o’r iaith ym mhob agwedd ar fywyd yr hanner canrif diwethaf. Diffinnir yr eirfa hon yn Gymraeg, ond rhoddir cyfystyron Saesneg yn ogystal. Rhoddir sylw manwl i ffurfiau amrywiol, cyfuniadau, a tharddiad geiriau. Ychwanegir geiriau newydd at y Geiriadur yn barhaus. Hoffem glywed gennych drwy [email protected] am eiriau newydd ac am unrhyw wallau yn y gwaith.